Presenoldeb

Os bydd eich mab/merch yn absennol oherwydd salwch neu reswm arall, gofynnir i chi ffonio’r swyddfa y bore hwnnw.

Os bydd eich mab/merch wedi bod yn absennol, disgwylir i chi egluro’r rhesymau dros hynny trwy lenwi dwy hanner y nodyn absenoldeb yng nghefn y Llyfr Cyswllt. Cyfrifoldeb y disgybl, ar ôl dychwelyd i’r ysgol, yw rhoi un hanner i’w Diwtor Personol. Bydd yr hanner arall yn aros yn y Llyfr Cyswllt.

Os bydd eich mab/merch yn gorfod bod yn absennol am gyfnod byr oherwydd apwyntiad meddyg neu ddeintydd neu reswm tebyg, gofynnir i chi lenwi’r taflenni absenoldeb yn y Llyfr Cyswllt ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod i’r Tiwtor Personol ac i’r ysgol. Unwaith eto, cyfrifoldeb y disgybl yw trosglwyddo’r wybodaeth.

Os nad yw’r camau hyn yn cael eu dilyn, mae’n bosibl y cewch alwad gan system cefnogi presenoldeb electronig yr Ysgol, Truancy Call.

Yr ysgol sy’n rhoi’r caniatâd i’r absenoldeb fod yn un sy’n cael ei awdurdodi. Os nad yw disgybl yn dychwelyd y slip absenoldeb, yna mae’r canran absenoldebau heb awdurdod yn aros yn uchel.

Mae disgybl yn absennol heb awdurdod hyd nes ei fod wedi dychwelyd y slip absenoldeb wedi ei arwyddo gan riant/warcheidwad. Nod yr ysgol yw lleihau’r ffigwr hwn gymaint â phosibl.

Atgoffir rhieni bod hawl cymryd disgybl allan o’r ysgol ar gyfer gwyliau teuluol am gyfanswm o 10 niwrnod yn unig yn ystod y flwyddyn. Os ydych yn dymuno cymryd eich mab/merch allan o’r ysgol i fynd ar wyliau teuluol rhaid yn gyntaf llenwi ffurflen gais am absesnoldeb. Cedwir y ffurflenni yn Swyddfa’r Ysgol.

Mae’r ysgol yn ymrwymedig i gynllun COMPACT sy’n cael ei weithredu gan Bartneriaeth Addysg a Busnes Rhondda Cynon Taf, sy’n gosod targed presenoldeb o 95% i bob disgybl. Mae’r Bartneriaeth a’r Ysgol yn gwobrwyo disgyblion sy’n cyrraedd 100% presenoldeb.

COMPACT a’i gymhelliant

Mae blaengaredd COMPACT yn cysylltu cyflogwyr, ysgolion a cholegau gyda phartneriaid eraill megis y Gwasanaeth Gyrfaoedd a chyrff Hyfforddi. Bwriad targedau COMPACT yw annog pob disgybl i gymryd cyfrifoldeb personol dros drefnu eu hunain yn ogystal â chynllunio tuag at dargedau’r dyfodol. Drwy gynnig cyfleoedd i ddisgyblion gofnodi presenoldeb, prydlondeb a datblygiad personol fel rhan o brosesau COMPACT a datblygiad eu Ffeil Cynnydd,  amcanir at feithrin y sgiliau a’r agweddau cadarnhaol a fydd yn gwella cyfleoedd i’r person ifanc wneud penderfyniadau llwyddiannus ynglŷn ag addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth.