Y Drefn Achwyno

Yn unol â gofynion Adran 23 Deddf Diwygio Addysg 1988, mae’r Awdurdod Addysg wedi sefydlu trefniadaeth ar gyfer delio a chwynion am gwricwlwm yr ysgol. Mae’r Awdurdod Addysg hefyd wedi sefydlu trefniadaeth i ddelio â chwynion yn erbyn athrawon.

Gellir cael copïau o’r dogfennau hyn trwy ysgrifennu at y swyddfa Addysg, Tŷ Trevithick, Abercynon.

Awgrymir y dylid ceisio datrys problemau trwy drafod y mater yn gyntaf gyda’r Arweinydd Cynnydd, Pennaeth Cynorthwyol, Dirprwy neu’r Pennaeth. Gwneir pob ymdrech i ymateb i ac ymdrin â phroblemau yn gyflym ac yn effeithiol. Os nad yw rhieni yn hapus mae modd iddynt ffurfioli’r gwyn trwy ysgrifennu at y Pennaeth.

Trefniadau Gweld Dogfennau

Mae modd i rieni sy’n dymuno gweld copïau o bolisïau’r ysgol neu ddogfennau statudol y Llywodraeth ar Addysg, wneud hynny trwy gysylltu â’r Pennaeth.

Cynllun Hygyrchedd

Gellir cael copi o Gynllun Hygyrchedd yr Ysgol o’r ysgol os dymunwch.