Cynhwysiant, Cynhaliaeth a Chyngor
Gweithredir polisi integreiddio yn yr ysgol hon sy’n rhoi cyfle i bob disgybl ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae Arweinwyr Pwnc yn darparu cynlluniau gwaith amrywiol a gwahaniaethol, deunyddiau dysgu, profiadau a dulliau dysgu digon amrywiol i ddiwallu anghenion pob disgybl. Rhoddir sylw unigol i rai disgyblion yn y pynciau craidd Cymraeg, Saesneg a Mathemateg. Bryd arall, defnyddir cynorthwywyr o’r Adran Cynnal Dysgu i gynnal disgyblion o fewn y dosbarth.
Drwy brosesau’r Ffeil Cynnydd, arweinir pob disgybl i fagu dealltwriaeth o’i gryfderau personol yn ogystal â’r agweddau hynny lle mae angen datblygiad. Anelir at feithrin hinsawdd o lwyddiant trwy gydnabod a chanmol ymdrechion y disgybl fel unigolyn.
Disgyblion ag Anableddau
Bydd y SENCO ac Arweinydd Cynnydd Blwyddyn 7 yn trafod â’r ysgolion sy’n ein bwydo er mwyn sicrhau bod y broses drosglwyddo i ddisgyblion ag anabledd mor hwylus ag sydd yn bosibl. Yn unol â’n hymrwymiad i gyfleon cyfartal, nid ydym am i ddisgyblion ddioddef anfantais oherwydd eu hanableddau a bydd y SENCO yn monitor hyn yn rheolaidd. Yn yr un modd mae’r SENCO yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion arbennig ond heb ddatganiad. Byddwn yn monitor a gwerthuso’r polisiau perthnasol yn flynyddol
Cymraeg
English