Mae’r cwricwlwm Addysg Gorfforol yn cynnig rhaglen gytbwys sy’n amcanu i ddatblygu’r ungiolyn yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn gognitif. Mae’r amrediad cynhwysfawr o brofiadau yn ymateb i anghenion unigol pob disgybl gan eu hannog i gymryd rhan fel perfformwyr, arsylwyr neu fel swyddogion. Rhan hanfodol o’r broses ddysgu yn yr Adran hon yw datblygu hyder personol, dygnwch a’r gallu i werthfawrogi cryfderau a gwendidau personol ac mewn eraill.
Drwy gyflwyno’r rhaglen hon bwriedir ymestyn gorwelion y disgyblion a’u paratoi i fanteisio ar y cyfleoedd amrywiol a gynigir iddynt yn ogystal â’u cyflwyno i’r byd hamdden o fewn a thu allan i’r ysgol. Anogir pob unigolyn i feistroli’r arferion da hynny sy’n datblygu’r sgiliau a’r agweddau a fydd yn eu harwain i fyw bywyd iach sy’n cynnwys elfen gref o ymarfer corfforol.
Yn ogystal â gymnasteg, athletau a dawns, caiff y disgyblion gyfle i fwynhau’r chwaraeon canlynol:
- Merched CA3: hoci, pêl fasged, pêl rwyd, pêl foli, pêl droed, rownderi.
- Bechgyn CA3: hoci, rygbi, pêl fasged, pêl droed, badminton, criced, pêl fas.
- Merched CA4: hoci, pêl fasged, pêl rwyd, pêl droed, badminton.
- Bechgyn CA4: hoci, rygbi, pêl fasged, pêl droed, badminton.
Darperir rhaglen faith o weithgareddau awr ginio ac ar ôl ysgol. Mae’r gweithgareddau hynny yn agored i bob disgybl. Mae’r ysgol yn cystadlu yn y gynghrair leol a sirol mewn rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a hoci. Ceir cyswllt cymunedol agos hefyd gan fod clybiau lleol ac asiantaethau’n defnyddio cyfleusterau chwaraeon yr ysgol yn wythnosol.
Mae’r Ysgol yn rhan o fenter Cyngor Chwaraeon Cymru i hybu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgolion (PESS). Golyga hyn gydweithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd i hybu a datblygu’r safon o Addysg Gorfforol mae’r disgyblion yn ei dderbyn ac hefyd yr amrediad o weithgareddau a gynnigir. I gynorthwyo hyn mae’r Ysgol yn ran o ymgyrch 5×60 i geisio cael pob disgybl yn actif am 60 munud pob dydd drwy gynnig amrediad eang o weithgareddau megis jiwdo, golff a yoga.
Mae’r ysgol yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach.
Cymraeg
English