Blwyddyn 7
Dosberthir y gwersi ym Mlwyddyn 7 fel a ganlyn:
68% o’r cwricwlwm: Cymraeg (5), Saesneg (5), Mathemateg (5), Gwyddoniaeth (5), Ffrangeg neu Sbaeneg (4), Technoleg (4), Iechyd Da (4), Cerddoriaeth (1), Drama (1).
32% o’r cwricwlwm: Modylau Dysgu Integredig (16)
Dysgir disgyblion Bl.7 mewn dosbarthiadau gallu cymysg.
Blynyddoedd 8 a 9
Dosberthir y gwersi ym Mlynyddoedd 8 a 9 fel a ganlyn:
Cymraeg (6/5), Saesneg (5/6), Mathemateg (6/5), Gwyddoniaeth (5/6), Ffrangeg neu Sbaeneg (4), Technoleg (4), Addysg Gorfforol (3), Addysg Grefyddol (2), Daearyddiaeth (3), Hanes (3), Cerddoriaeth (2), Drama (2), Celf (2), Technoleg Gwybodaeth (1), Datblygu Sgiliau (2).
Ym Mlwyddyn 8 bydd y pynciau craidd, Cymraeg, Saesneg a Mathemateg a Thechnoleg yn setio ar draws hanner blwyddyn. Bydd pynciau eraill yn defnyddio amrywiaeth o grwpiau dysgu gan gynnwys gallu cymysg. Bydd Blwyddyn 8 hefyd yn cael sesiwn cyffredinol gyda Swyddog Gyrfau’r ysgol. Bydd Blwyddyn 9 yn cael sesiwn cynghori gyda’r Swyddog Gyrfau pan ddaw hi’n gyfnod dewis pynciau. Bydd setio hyblyg o ddosbarthiadau yn digwydd yn y blynyddoedd hyn.
Cyflwynir rhaglen Dyfodol Personol i ddisgyblion CA3 drwy’r pynciau ac mewn sesiynau wythnosol yn ystod cyfnod bugeiliol y bore.
Cymraeg
English