Hanes

Staff Yr Adran:

Arweinydd Pwnc : Miss Sian Morris

Athrawon yr Adran: Mrs Eleri Phillips, Miss Anwen Howells

Cyfnod Allweddol 3: Blwyddyn 8 & 9

Blwyddyn 8
Meysydd Astudio: Cymru yn yr Oesoedd Canol c.1000-1500 a Chymru a Phrydain yn y Byd Modern Cynnar c.1500-1760
Tymor 1: Beth yw Hanes? Sgiliau Pynciol. Pa fath o wlad oedd Cymru yn 1000? Dyfodiad y Normaniaid
Tymor 2: Dyfodiad y Normaniaid a Thywysogion Cymru
Tymor 3: Oes y Tuduriaid

Asesiadau allweddol:
Tymor 1 :  (a) Tasg Tystiolaeth – Pwy oedd ar fai? (b)Tasg Ymholi – Sut le oedd Cymru yn 1000 ?
Tymor 2:  (a) Erthygl Papur Newydd: Gwenllian (b) Y Pla Du
Tymor 3: (a) Harri VIII (b) Ai’r tywydd oedd yn bennaf gyfrifol am fethiant yr Armada?

Blwyddyn 9
Meysydd Astudio:
Tymor 1: Y Chwyldro Diwydiannol
Tymor 2: Y Rhyfel Byd Cyntaf
Tymor 3: Bywyd yn y 60au

Asesiadau allweddol:
Tymor 1: (a)Tanchwa Senghennydd (b) Gwrthryfer Merthyr
Tymor 2: (a) Hanes yr Iddewon (b) Y Chwyldro Diwydiannol
Tymor 3: (a) Y Rhyfel Byd Cyntaf

Sgiliau: Yn ystod y gwersi/ tasgau gwaith cartref  mae’ r Adran yn manteisio ar bob cyfle i ehangu’r sgiliau o’r Rhaglen Dysgu i Lwyddo ynghyd â’r sgiliau pellach sydd eu hangen ar ddisgyblion. Bydd y tasgau gwaith yn nodi (drwy’r defnydd o symbolau) y SMARTIAID a’r prosesau meddwl a geir yn y Deitheb o Flwyddyn 7 ynghyd â chyfleodd pellach i ddatblygu sgiliau ieithyddol, rhifedd, TG ynghyd â’r egwyddor o fetawybyddiaeth sef cyfle i ‘gynllunio’ datblygu syniadau a gwerthuso’r gwaith’.

Sgiliau pwnc benodol : Ymholi Hanesyddol, Cronoleg, Trefnu a Chyfathrebu  Dehongliadau o Hanes, Gwybodaeth a Dealltwriaeth

Anelu’n Uwch: Lle i awgrymu gwaith ychwanegol fydd yn arwain y disgyblion at gyrraedd eu potensial. Gyda’r tasgau asesu (a rhai o’r tasgau dosbarth a chartref) y mae cynlluniau marcio wedi eu darparu er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn deall sut i anelu at y lefel uwch. Bydd cyfle gan bob disgybl sydd wedi cyflawni’r gwaith erbyn y dyddiad cau i wella ar y gwaith yma. Ynghyd â hyn, mae nifer o’r tasgau dosbarth a thasgau gwaith cartref yn cynnig ‘tasg ychwanegol’ a fydd yn gyfle i ymestyn sgiliau eich plentyn ymhellach.

Sut allwch chi gefnogi eich plentyn yn y pwnc hwn: Oes ydych yn cael y cyfle i ymweld â safle hanesyddol megis un o’r cestyll sydd ar gael o gwmpas ein gwlad, neu amgueddfa (sydd bellach yn rhad ac am ddim), bydd hwn yn gyfle pellach i gyfoethogi sgiliau hanesyddol eich plentyn ynghyd ag ennyn rhagor o ddiddordeb a brwdfrydedd am y pwnc.

Gwefannau defnyddiol:Safle’r BBC:www.bbc.co.uk/history, www.gcad-cymru.org.uk , www.ngfl-cymru.org.uk, Wikipedia, History Channel, Bitesize (safle BBC).

Cyfnod Allweddol 4: TGAU

Cliciwch yma i gysylltu â thudalen TGAU Hanes ar wefan CBAC

Gwelwch hefyd Llyfr Dewis Pynciau CA4

Cyfnod Allweddol 5: Lefel A/AS

Cliciwch yma i gysylltu â thudalen Lefel A/AS Hanes ar wefan CBAC

Gwelwch hefyd Llyfr Dewis Pynciau CA5