Drama

“Mae Drama yn bwnc sydd yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth unigolion sydd yn cael eu hasesu ar draws y cyfnodau allweddol. Mae dilyniant clir mewn gwersi Drama a gwelir hyn mewn tri phrif cam sef: creu, perfformio a gwerthuso. Mae Drama yn hybu sgiliau personol a chymdeithasol unigolion drwy gydweithio gydag eraill fel rhan o dîm.”

Angarad Rees Jones

Staff Yr Adran:

Arweinydd Pwnc : Miss Angharad Rees Jones

Athrawes Ddrama Cyfnod Allweddol 3, 4 & 5: Miss Rhiannon Boyle

Athrawes Ddrama Cyfnod Allweddol 3: Miss Awen Thomas

Cyfnod Allweddol 3: Blwyddyn 7,8 & 9 Drama

Blwyddyn 7
Meysydd Astudio:

Tymor 1: Meim
Tymor 2: Melodrama
Tymor 3: Chwedl Gelert

Asesiadau allweddol:
Tymor 1: Meim-Asesiad ymarferol mewn pâr
Tymor 2: Melodrama-Asesiad ymarferol mewn grŵp
Tymor 3: Chwedl Gelert-Asesiad ymarferol mewn grŵp, asesiad ymarferol unigol

Blwyddyn 8
Meysydd Astudio:
Tymor 1:
Statws & Llwyfannau
Tymor 2: Romeo a Juliet
Tymor 3: Operau sebon & Dadansoddi Sgript

Asesiadau allweddol:
Tymor 1:
Statws-Asesiad ymarferol mewn pâr/Llwyfannau-Asesiad ymarferol mewn grŵp
Tymor 2: Romeo a Juliet-Asesiad ymarferol mewn grŵp
Tymor 3: Operau Sebon-Asesiad ymarferol mewn grŵp/Dadansoddi Sgript-Asesiad ysgrifenedig unigol

Blwyddyn 9
Meysydd Astudio:
Tymor 1:
‘Tafliad Carreg’ & Theatr Epig Brecht
Tymor 2: ‘Brodyr Gwaed’
Tymor 3: Y Cyfryngau & Theatr yr Abswrd

Asesiadau allweddol:
Tymor 1: ‘Tafliad Carreg’-Asesiad ymarferol mewn parau/Theatr Epig Brecht-Asesiad ymarferol mewn grŵp
Tymor 2: ‘Brodyr Gwaed’-Asesiad ymarferol mewn pâr
Tymor 3: Y Cyfryngau-Asesiad ysgrifenedig ac ymarferol mewn grŵp/Theatr yr Abswrd-Asesiad gwaith pâr

Sgiliau :
Cyfathrebu, gweithio gydag eraill, datrys Problemau, gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun, Technoleg Gwybodaeth, meddwl, cydweithio fel tîm, trafod, casglu syniadau, byrfyfyrio, cyfarwyddo, meimio, cymeriadu, gwerthuso

Anelu’n Uwch:
Cwblhau gwaith cartref ymchwiliol drwy greu Powerpoint ar y testun o dan sylw a’i rannu gyda’r dosbarth.
Cwblhau darnau o waith cartref yr adran Ddrama ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd.
Cymryd rhan yng ngweithgareddau allgyrsiol yr adran Ddrama.

Sut allwch chi gefnogi eich plentyn yn y pwnc hwn:
Ysgogi’ch plentyn i gymryd rhan yng ngweithgareddau allgyrsiol yr adran, gan gynnwys Eisteddfod Yr Ysgol, Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd, Sioeau Ysgol ac ati.
Pan fydd cwmnïoedd teledu yn chwilio am actorion o’r Ysgol, cefnogwch eich plentyn wrth ymgeisio am ei r/rhan.
Gwrandewch ar eich plentyn yn ymarfer ei g/eiriau pan yn paratoi am asesiad ymarferol.
Byddwch yn barod i rannu’ch eiddo! Fel arfer fe fydd disgwyl i ddisgyblion ddod â phrop a gwisg ar gyfer cyflwyno rôl mewn asesiad.
Rhowch gyfle i’ch plentyn wylio rhaglenni Cymraeg ar S4C- Gall cymeriad neu linyn stori ysbrydoli eich plentyn mewn gwersi Drama heb sôn am y cyfle i wrando ar yr iaith Gymraeg.
Anogwch eich plentyn i ddarllen dros waith cartref a sicrhau bod y gwaith cartref i mewn erbyn y dyddiad cau.
Ewch i wylio dramâu/sioeau cerdd yn y theatr os yn bosibl

Cyfnod Allweddol 4: TGAU Drama

Cliciwch yma i gysylltu â thudalen TGAU Drama ar wefan CBAC

Gwelwch hefyd Llyfr Dewis Pynciau CA4

Cyfnod Allweddol 5: Lefel A/AS Drama

Cliciwch yma i gysylltu â thudalen Lefel A/AS Drama ar wefan CBAC

Gwelwch hefyd Llyfr Dewis Pynciau CA5