Mae’r cyrsiau yn y pynciau hyn yn arwain naill ai at y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU) neu at y Dystysgrif Lefel Mynediad (TLM) mewn rhai pynciau. Rhoir cyfle hefyd i fyfyrwyr ddewis astudio pynciau Galwedigaethol TGAU, Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) a chyrsiau BTEC. Felly mae’n bosibl i ddisgybl sefyll
arholiadau allanol mewn o leiaf deg o bynciau ar ddiwedd blwyddyn 11. Wrth gwrs, gall disgybl sy’n dilyn cwrs Llenyddiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ac sy’n dilyn cwrs deuradd/dwbl mewn Gwyddoniaeth ennill tystysgrif mewn tri phwnc ar ddeg. Hefyd bydd rhai pynciau yn caniatau i ddisgyblion sefyll arholiad TGAU ar ddiwedd blwyddyn 10.
Mae'r cwrs Addysg Grefyddol yn gwrs TGAU Byr.
Yn ogystal â’r cyrsiau sy'n arwain at arholiadau allanol, bydd pob disgybl yn derbyn dwy wers o Addysg Gorfforol. Mae'r rhaglen Dyfodol Personol yn cynnwys yr elfennau canlynol: Gyrfaoedd, Addysg Foesol, Ymwybyddiaeth Economaidd, Addysg Iechyd, Cynaladwyedd, Addysg Rhyw a Chyffuriau. Cynnigir hyn trwy grogi’r amserlen ar ddiwrnodau arbennig yn ystod y flwyddyn.
Y Cyrsiau Dewisol
Wrth ddewis eich cyrsiau, rhaid sicrhau bod eich cwricwlwm yn eang a chytbwys yn hytrach na chyfyngu eich dewis i nifer o bynciau tebyg. Gall arbenigo’n ormodol ar hyn o bryd arwain at siom yn ddiweddarach a gallech ddarganfod bod nifer o ddrysau wedi’u cau o ran gyrfa yn y
dyfodol.