Daw’r Tiwtor Personol i’w hadnabod yn dda, felly, mae mewn sefyllfa arbennig i gynnig cefnogaeth a chyngor.
Mae trefn cefnogi a phrosesau’r Ffeil Cynnydd yr ysgol yn sicrhau y caiff pob unigolyn sgwrs bersonol gyda’r Tiwtor Personol. Mae’n gyfle i drafod amrywiol agweddau o fywyd yr ysgol gyda’r unigolyn yn ogystal â monitro datblygiad academaidd a phersonol. Mae'n gyfle hefyd i drafod unrhyw anawsterau neu ofidiau.
Bydd y Tiwtor Personol yn cydweithio'n agos iawn gyda'r Arweinydd Safonau Cyrhaeddiad a rhieni er mwyn cynorthwyo datblygiad llawn a llwyddiannus pob unigolyn. Atgyfnerthir eu gwaith gan y Cydlynydd Mentora Disgyblion, y Dirprwy a’r Pennaeth.